Hafan Tu Ôl i'r Llen Lluniau Comics Am y Comic Yr Arlunwraig

Am yr Arlunwraig

Mae comics Bywyd Gwyllt yn cael eu creu gan yr arlunwraig, Lucy Jenkins.

Helo! Fi yw Lucy Jenkins. Fi 'di bod yn creu celf o wahanol fathau ers o'n i'n fach iawn. Arlunio yw un o fy hoff bethau i'w wneud heblaw am gwrando ar a chreu cerddoriaeth felly dyw e ddim yn syndod mawr bod rhywun fel fi tu ôl i comic wê am fand pop punk wedi'i seilio yn 2003 (y 2000au yw fy hoff ddegawd).

Fi a'r clawr ddyluniais i ar gyfer record Clwb y Selar

Dechreuais i greu comics yn ifanc iawn, pan o'n i yn yr ysgol gynradd. O'n i'n mwynhau gwylio rhaglenni a ffilmiau am archarwyr (y gair Gymraeg am superheroes) yn fawr, felly dechreuais i comic o gwmpas y syniad bod ci fy mam gu, Susie Mae, yn archarwres pan o'n i tua 8 oed. Sai'n cofio lot am rhein ond fi'n cymryd bod y straeon ddim yn focussed iawn gan ystyried o'n i'n blentyn ar y pryd. Fi yn cofio peidio gorffen y rhan fwyaf ohonyn nhw!.

Susie Mae

Dechreuais i gartŵn hiwmor bach falle blwyddyn neu ddwy wedyn. Ebryn hyn o'n i'n ffan mawr o'r Beano, ac yn edrych tu hwnt i genre archarwyr. Roedd y gartŵn am bysgodyn aur gyda mwstash odd yn gwisgo siwt a sbectol ond eto sai'n cofio lot am y cynnwys. Fi yn cofio gorffen nifer o rhain a bod dim lot o bobl yn deall yr hiwmor, ond fi'n cofio rhuo chwerthin yn creu nhw! Odd yr hiwmor bach yn random/absurdist, felly does dim lot wedi newid yn amlwg!

Fi ar wyliau yn edrych yn cŵl yn y dyddiau comics cynnar

Erbyn i fi gyrraedd fy arddegau, o'n i wedi troi at greu portreadau o bobl, yn dechrau gydag enwogion cyn symud ymlaen at greu portreadau o fy nghyd-ddisgyblion yn yr ysgol. Fi'n cofio cyfnod bach o bobl o bob flwyddyn yn gofyn am bortread! Nath e roi cyfle da i fi ddysgu sut mae'r wyneb wedi'i hadeiladu ac o'n i'n mwynhau gweld pobl yn hapus yn derbyn y lluniau gorffenedig. Ffaith arall am fi yw bod fi 'di bod yn casglu hen gemau fideo ers o'n i'n 14 oed. Dechreuodd e gyda gêm NHL 06 ar gyfer y PlayStation 2. Nath y gêm droi fi'n ffan o hoci iâ (ac effeithio'n fawr ar y math o gerddoriaeth fi'n mwynhau) a dechreuais i greu celf wedi'i ysbrydoli gan hoci. Odd y lluniau cynnar yn dangos golygfeydd gwahanol yn ymwneud â hoci iâ ond es i'n ôl at portreadau'n digon glou. Ar ôl cwpwl o fisoedd o gwneud portreadau, des i bach yn enwog yn y gymuned hoci iâ yn y Deyrnas Unedig ac wedi casglu cwpwl o ffans yng Ngogledd America (a fi'n dal i gadw mewn cyswllt gyda rhai ohonyn nhw, sy'n wych!). Sai'n un am selfies yn naturiol ac roedd lot o bobl yn meddwl taw dyn o'n i yn y blynyddoedd cynnar. Sai'n gwbod pam, odd enw fi ar bob llun ac ymhob bio odd gyda fi, ond dyna ni.Yn ystod y cyfnod yma, ges i'r cyfrifion 'Drawn to Ice Hockey' a dyna fel mae llawer o bobl yn nabod fi erbyn hyn. Weithiau'n fwy na fy enw go iawn!

Fy mhortread o'r chwaraewr, Joey Martin

Dechreuais i ddysgu sut i recordo cerddoriaeth fy hun ar laptop y teulu ar yr un pryd. O'n i'n gwbod yn barod sut i gyfansoddi gydag offerynnau digidol ac rhoddodd y sgil newydd yma awydd i fi gyfansoddi caneuon llawn. O'n i'n mwynhau cerddoriaeth pop punk a post hardcore ac odd fy ngherddoriaeth yn adlewyrchu hwn. Erbyn 2016, o'n i'n cyfansoddi caneuon cynharaf Bywyd Gwyllt. Doedd y gerddoriaeth ddim yn dda iawn ar y cyfan ond odd cyfansoddi gymaint yn gyfle da i fi ddysgu sut i recordo a chynhyrchu ar ben fy hun. Erbyn hyn, fi'n dipyn o muso ac yn dysgu mwy a mwy am gerddoriaeth pob dydd.

Fy mhortread o'r chwaraewr, Mark Richardson

Es i'n weddol lwyddiannus gyda'r portreadau ac wedyn daeth y fideos cerddoriaeth. Es i i'r coleg i astudio blwyddyn sylfaen o gelf rhwng 2018 a 2019. Yn yr un cyfnod, ymunais i â'r Gerddorfa Ukulele dan arweiniad Mei Gwynedd.

Fy mhortread o Mei Gwynedd

O'n i eisioes wedi bod yn edrych ar mynd 'nôl at animeiddio - diddordeb mawr i fi ers plemtyndod - a rhyddhaodd Mei gân newydd ar ddiwedd 2018. Gwnes i glip bach animeiddiedig o gytgan ac ôl-gytgan y gân, 'Tafla'r Dis', a gofynnodd Mei i fi greu fideo llawn ar gyfer y gân. Nath y coleg roi cyfle i fi greu y fideo fel aseiniad hefyd, ac roedd fideo 'Tafla'r Dis' yn llwyddiant.

Llun o Tafla'r Dis

Ar ôl 'Tafla'r Dis', gwnes i 2 fideo arall, 'Blithdraphlith' gan Sibrydion, ac 'O.G. Greta' gan Calan. Mae nifer o bobl Cymraeg yn nabod fi am y fideos yma (a nifer arall yn nabod fi am bendoncio yn rhesi flaen Tafwyl a'r Eisteddfod).

Yr haf ar ôl rhyddhau 'O.G. Greta', nes i gofio am syniad ges i yng nghanol fy arddegau am fand pop punk yn byw bywyd yn 2003, a dechreuais i ddatblygu straeon am y syniad yma. Yn wreiddiol, drama oedd y stori, ond wedi gadael hi fod am cwpwl o flynyddoedd, odd hi'n teimlo fel syniad gwell i droi y stori'n gomedi gan taw comedi yw fy hoff genre ac yn dod yn naturiol i fi. Sai'n mwynhau ysgrifennu'n fawr iawn, ac ar ôl edrych ar lyfrau Ramond Briggs, comic odd y syniad gorau ar gyfer ffurf i gael adrodd y straeon. Cyn bo hir, derbyniodd y comic yr enw, Bywyd Gwyllt, ac mae hwna'n dod a ni lan at y presennol.

Panel o comic cyntaf Bywyd Gwyllt

Diolch am ddarllen!

Hafan

©2024 Lucy Jenkins