Hafan Tu Ôl i'r Llen Lluniau Comics Am y Comic Yr Arlunwraig

Ben Williams

Ffeithiau am Ben

Helo! Fi yw Ben Williams a fi sy'n canu yn Bywyd Gwyllt.

Fi hefyd yn cyfansoddi rhan fwyaf o ganeuon Bywyd Gwyllt gyda Sam. Ffrind gorau fi yn y band yw Siôn ac rydym ni wedi bod yn ffrindiau gorau ers ysgol feithrin. Fi'n caru canu ac heblaw am ganu yn y band, fi hefyd yn canu yn y côr ysgol gyda Sam, Jace, a Charlie. Fi hefyd yn astudio cerddoriaeth TGAU gyda Sam, Dar, Charlie a Siôn. Fy hoff ffordd o ffeindio cerddoriaeth newydd yw gwylio sianeli cerddoriaeth ar y teledu a fy hoff fath o gerddoriaeth yw cerddoriaeth roc. Fi'n mwynhau bandiau fel Vanta a Mojo. Mae eu cerddoriaeth yn gwneud i fi deimlo'n rhydd. Fi wastad yn ffeindio fy hun yn cyfansoddi caneuon mwy pync am yr un rheswm! Fi moyn cael rhyddid i ddilyn breuddwydion fi a teimlo bod llais gyda fi yn y byd.

Amdanom Ni

Hafan

©2024 Lucy Jenkins