Hafan Tu Ôl i'r Llen Lluniau Comics Am y Comic Yr Arlunwraig

Charlie Dawes

Ffeithiau am Charlie

Helo! Fi yw Charlie a fi'n canu'r bâs yn Bywyd Gwyllt.

Dim ond un o fy hoff offerynnau yw'r gitâr fâs. Rwy'n chawarae pob math o offerynnau ac yn mwynhau pob math o gerddoriaeth. Os rwy'n gweld offeryn diddorol, rwy'n cael awydd i ddysgu sut i chawrae fe. Rwy'n caru'r bâs dwbwl a'r piano hefyd a cherddoriaeth roc a rôl gyda churiad da! Tu fas i'r ysgol, rwy'n chawrae'r chwythgorn mewn band pres ac yn mwynhau cymryd rhan mewn cystadlaethau yn erbyn bandiau eraill. Fi hefyd yn chwarae'r gitâr, y ukulele, y llwyau (ie, offeryn go iawn), yr accordion, a'r ffidl. Ar hyn o bryd, rwy'n dysgu sut i chwarae'r clychau! Rwy'n caru casglu hen recordiau, yn enwedig rhai Cymraeg, neu rhai gan fandiau does neb yn cofio. Mae wastad mwy i ddysgu am gerddoriaeth sydd wedi bodoli dros y blynyddoedd. Fy hoff gerddoriaeth yw unrhyw fath sy'n gwneud i chi moyn symud, ac i fi, roc a rôl a gwerin yw rheini (a recordiau ska a rocksteady fy nhad). Un peth rwy'n mwynhau am hen gerddoriaeth yw'r defnydd o offerynnau go iawn- chi'n gallu clywed bod yr offerynnwyr yn teimlo'r gerddoriaeth wrth recordio! Rwyf hefyd yn cystadlu gyda'r ysgol yn gwneud dawnsio gwerin. Mae'n hwyl cael gwisgo lan a dysgu dawnsiau hanesyddol, ac fel rwyf wastad yn dweud, mae wastad mwy i ddysgu! Felly, pam ydw i'n chwarae mewn band pync? Rwy'n cael gwneud rhywbeth hwyl gyda fy ffrindiau ac mae sŵn a churiad y gerddoriaeth mor gyffrous! Rwy'n caru cyfansoddi baselines cŵl hefyd i greu diddordeb fel yr offerynnau yn y gerddoriaeth baroque ni'n astudio ar gyfer TGAU!

Amdanom Ni

Hafan

©2024 Lucy Jenkins