Hafan Tu Ôl i'r Llen Lluniau Comics Am y Comic Yr Arlunwraig

Jason Thomas

Ffeithiau am Jason

Shwmae! Fi yw Jason a fi'n chwarae gitâr flaen yn Bywyd Gwyllt.

Fi'n chwarae Fender Jaguar coch a fi'n caru e. Hen gitâr dad fi yw e nath e roi i fi fel anrheg Nadolig. Odd e mewn band gyda dad Sam a Dar yn y 70au ond dyw e heb siarad lot 'da fi am y peth, felly sai'n gwbod mwy na hwna. Fi'n caru cerddoriaeth pync roc achos fi'n caru'r sŵn a'r pŵer. Dyna fy hoff ffordd o fynegi fy hun. Fi'n rîli mwynhau casglu cerddoriaeth pync o'r 80au. Mae 'da fi battle jacket a fi'n casglu botymau a patches i roi arno fe.

O, cyn i fi anghofio,

RHYDDID I GYMRU!!!

Poster Jason

Cliciwch i brintio poster Jason

Amdanom Ni

Hafan

©2024 Lucy Jenkins