Hafan Tu Ôl i'r Llen Lluniau Comics Am y Comic Yr Arlunwraig

Darren Lloyd

Ffeithiau am Dar

Fi yw Darren Lloyd a fi'n chwarae'r dryms yn Bywyd Gwyllt.

Fi'n caru chwarae cerddoriaeth cyflum a swnllyd i gael egni fi mas. Fi'n mwynhau lot o chwaraeon felly mae lot o egni gyda fi. Fi'n chwarae ar lot o dimoedd ysgol fel y tîm rygbi a'r tîm athletau yn rhedeg traws gwlad. Mae tîm pêl fas gan rhai o'r ysgolion lleol felly fi'n chwarae i tîm ysgol ni hefyd. Yn ddiweddar, nes i ddechrau defnyddio inline skates ond fi'n byw ar ochr bryn felly fi ond yn gallu ymarfer pan fi'n mynd i'r dre.

Fi'n efaill i Sam. Mae e 9 munud yn hun na fi a ni'n wahanol mewn mwy o ffyrdd na jyst edrychiad. Mae e lot tawelach na fi ac mae well 'da fi gymryd mwy o risgs na fe hefyd. Fi'n hoffi gwneud pethau cyffrous a byw i'r eithaf. Mae dryms yn berffaith ar gyfer hwn. Mae'n anodd cadw curiad, cofio be fi fod bod yn chwarae, a sicrhau bod pobl yn clywed fi dros sŵn y gitârs i gyd!

Amdanom Ni

Hafan

©2024 Lucy Jenkins