Hafan Tu Ôl i'r Llen Lluniau Comics Am y Comic Yr Arlunwraig

Siôn Davies

Ffeithiau am Siôn

Helo! Fi yw Siôn Davies a fi sy'n canu'r allweddellau yn Bywyd Gwyllt.

Fi'n caru'r allweddellau achos maen nhw'n gallu creu synnau diddorol a futuristic i ychwanegu elfen unigryw i'r caneuon. Fi 'di bod yn ffrindiau gorau gyda Ben ers ysgol feithrin a breuddwyd ni ers yn fach oedd i fod yn rockstars. Fi'n cofio chwarae rockstars fel plant bach a perfformio sioeau i'n rhieni ni. Fi'n tipyn o geek ac yn mwynhau darllen comics a chwarae gemau fideo. Fy hoff comics a nofelau graffig yw'r rhai sci-fi ac antur. Fi'n caru straeon am uwcharwyr (superheroes), neu'r gofod ac yn hoffi creu cymeriadau fy hun a tynnu lluniau ohonyn nhw. Mae dad fi'n gweithio i gwmni TGCh ac yn hoff o gasglu teclynau gwahanol. Fi'n lwcus i gael chwarae gyda nhw a fi'n gobeithio cael MP3 player am Nadolig eleni! Nath dad fi roi meddalwedd i fi gael cyfansoddi cerddoriaeth ar y cyfrifiadur ar gyfer gwaith ysgol fi, ond fi'n mwynhau cyfansoddi caneuon fy hun hefyd am hwyl. Fi'n astudio cerddoriaeth TGAU gyda Ben, Charlie, Sam, a Dar. Fi'n caru cerddoriaeth trwm a cherddoriaeth emosiynol. Bandiau metal fel Evanesence a Linkin Park, a bandiau mwy teimladwy fel My Awesome Compilation. Fi wastad yn darganfod cerddoriaeth newyd trwy wylio beth mae pobl yn siarad am ar fforymau arlein. Hoffwn i greu gêm fideo fy hun rhywddydd neu fod yn arluniwr ar gyfer comic. Falle'r ddau!

Amdanom Ni

Hafan

©2024 Lucy Jenkins