Hafan Tu Ôl i'r Llen Lluniau Comics Am y Comic Yr Arlunwraig

Am y Comic

Mae Bywyd Gwyllt yn gomic wê gan yr arlunwraig, Lucy Jenkins. Mae'r comic yn dilyn hynt a helynt band pop punk fuglennol o'r enw Bywyd Gwyllt, wrth iddynt geisio torri mewn i'r Sîn Roc Gymraeg yn 2003.

Fi, Lucy Jenkins!

Hanes Bywyd Gwyllt

Dechreuodd y syniad am Bywyd Gwyllt yn 2016 pan o'n i'n 15 oed. Rwy wedi cymeryd diddordeb mawr yn negawd y 2000au ers iddo orffen ac erbyn canol fy arddegau, ro'n i wedi dechrau casglu dillad a gemwaith o'r cyfnod. Fel merch, yn amlwg, o'n i'n casglu dillad menywod ac roedd diddordeb gyda fi mewn ymchwilio i ffasiwn dynion y 00au, felly ro'n i'n arfer darlunio cartwns o ddynion yn gwisgo outfits gwahanol er mwyn cael chwarae o gwmpas gyda'r steiliau. Dechreuodd hwn 'nôl yn 2015 ond yng ngwanwyn 2016, dechreuais i roi cefndiroedd i'r bechgyn yma a dechrau gwae stori yn cynnwys nifer ohonynt.

Fi yn 2016 pan ddaeth Bywyd Gwyllt yn fyw

Darren a Jason oedd y cyntaf i gael eu dylunio fel cymeriadau llawn. O'n i'n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth pop punk, punk ac emo a felly dyma'r steiliau roedd diddordeb gyda fi mewn arbrofi gyda. Mae Jason yn punk mewn ffordd mwy traddodiadol ond ro'n i moyn iddo fe deimlo fel rhywun oedd yn byw yn 2003. Ychwanegais i elfennau o'r cyfnod fel cargo shorts a chrys-t oedd yn teimlo'n fwy gyfoes i'r mileniwm newydd er mwyn rhoi sylfaen fodern i'r wisg. Felly wedyn ychwanegais elfennau ystrydebol pync fel steil gwallt mohican a siaced llawn bathodynau, phiniau cau, a patches baneri Cymreig gan ei fod e o blaid annibyniaeth i Gymru.

Y llun cyntaf o Jason

Gyda Darren, ges i fy ysbrydoli gan fideo o ddrymiwr ar YouTube a felly daeth Darren yn ddrymiwr. Mae ei steil yn seiliedig ar steil 'skater'/'pop punk' oedd yn boblogaidd rhwng diwedd y 90au a chanol y 00au gan taw hwn yw fy hoff fath o gerddoriaeth a ffasiwn. Daeth y llun o Darren o ddau sketch gwnes i yn 2015 o fagchen pync, a bachgen mwy skater punk mewn steil 90au hwyr. Roedd y bachgen pync yn edrych yn rhy debyg i Jason felly roedd angen newid ei edrychiad e fodd bynnag. Mae gan Darren wallt melyn bleach blonde pigog a throwsus cargo.

Llun cynnar o Darren

Ar y pryd, o'n i'n hoff o ddarlunio cymeriad ac wedyn gweithio mas pwy oeddyn nhw gan edrych ar osgo'r corff, y dillad, a mynegiant y wyneb. Daeth Jason yn gymeriad oedd yn hoff o fynegi ei deimladau'n gryf a dilyn ei drywydd ei hun. Daeth Darren yn fachgen athletaidd, egnïol oedd yn hoffi cael jôc gyda'i ffrindiau, felly derbyniodd e bâr o trainers technegol a dynluniadau sporty ar ei grysau-t.

Yn nesa', daeth Sam. Mae Sam, fel Darren, yn gwisgo steil 'skater'/'pop punk' ond heb y ddylanwad athletaidd. Mae steil Sam yn fwy seiliedig ar steil bandiau pop rock y 2000au gyda highlights melyn ar ei wallt tywyll, wedi'i steilio mewn 'fauxhawk'. Roedd Sam yn dal iawn gyda slouch ac yn dod ar draws fel cymeriad tawelach, ac ychdyig yn fwy sensitif. Ar ôl rhoi Sam mewn grwp gyda Darren a Jason, newidiais i steil gwallt Sam ychydig i gael ffrinj fel bod e'n edrych yn llai tebyg i Jason. Pan yn dewis cyfenwau i'r cymeriadau, roedd Lloyd yn siwto Sam a Darren felly penderfynais eu gwneud nhw'n efeilliaid.

Mynegiadau wynebol Sam o 2016

Dyluniais i Siôn yn ystod fy nghyfnod arholiadau TGAU yn haf 2016. Erbyn hyn, roedd stori y bechgyn yn datblygu felly ro'n i'n edrych i ychwanegu cymeriadau. Y bwriad oedd i ddylunio cymeriad gyda steil gwallt tebyg i fi- gwallt tywyll gyda ffrinj 'emo' mawr. Dechreuais i, yn naturiol, gyda'r gwallt, gan adael i weddill y dyluniad ddatblygu o fyna. Mae steil Siôn yn gyfuniad o steil 'emo' cynnar, a steil nu metal oedd yn dechrau dod mas o ffasiwn erbyn 2003. Yn wreiddiol, roedd e'n mynd i fod yn gymeriad swil, synhwyrol, ond dros y blynyddoedd, mae e wedi datblygu mewn i gymeriad angerddol, heb ofn o ddangos ei deimladau i'r byd, er ei fod e'n gallu bod ychydig yn or-ddramatig.

Y llun cyntaf o Siôn

Daeth Charlie a Ben i fodolaeth yn fuan un ar ôl y llall. Ar ôl gwylio rhaglenni dogfen ar wreiddiau cerddoriaeth roc a rôl, dychmygais i fachgen yn gwisgo steil teddyboy, a penderfynais byddai e'n ddiddorol i gynnwys yn y stori gan fod ei wisg e mor wahanol i gwisgoedd mwy cyfoes y bechgyn eraill. Mae wedyn angen cynnwys cefndir i esbonio cael steil mor wahanol, felly mae Charlie yn gymeriad sy'n casglu dillad a recordiau vintage fel hobi. Yn ddiweddarach, penderfynais i rhoi mwy o ddyfnder i'r hobi yma gan rhoi diddordeb mawr mewn cerddoriaeth ac offerynnau cerddorol o bob math iddo fe. Mae Charlie yn gymeriad gonest ac unigryw sy'n hoffi cysylltu gyda phobl trwy gerddoriaeth.

Y llun cyntaf o Charlie

Ben oedd y cymeriad olaf i gael ei ddylunio. Ro'n i moyn cymeriad yn y grwp oedd yn fwy poblogaidd gyda disgyblion eraill yr ysgol (mae rhan fwyaf y bois yn y band yn cael eu gweld yn rhy geeky neu'n rhyfedd gan y disgyblion eraill) ond doeddwn i ddim yn deall y math o steil o'n i moyn iddo fe wisgo felly creuais i steil eitha hipster iddo fe heb deimlo'n hollol hapus gyda'r canlyniad. Dros y blynyddoedd, llithrodd Ben mewn a mas o'r criw, yn gorffen gyda fi'n penderfynu ei gadw e i fod fel arweinydd i'r grwp. Pan nad oedd Ben yn y stori, Jason oedd yn arwain y grwp. Gyda mwy o syniad erbyn hyn o bwy yw Ben, mae steil gyda fe fel unigolyn sy'n dangos ei fod e'n ffito mewn bach yn haws na'r bechgyn eraill ond gydag elfennau bach fel ychydig o gemwaith, lliwiau tywyll, a steil ychdig yn llac, fel bod e ddim yn cuddio ei bersonoliaeth a diddordebau go iawn.

Y llun cyntaf o Bywyd Gwyllt yn 2016

Y syniad gwreiddiol oedd am gyfres animeiddiedig a nid comic, a drama oedd y stori yn hytrach na chomedi. O'n i rhwng 15 ac 16 oed yn creu y stori gwreiddiol, a'r ffasiwn ar y pryd gyda chyfresi animeiddiedig oedd dramau gyda neges. Gadawais y stori i fod rhwng 2018 a 2021, ac wrth pigo fe 'nôl lan eto yn 21 oed, penderfynais droi y stori'n gomedi gan taw dyna beth sy'n dod y mwyaf naturiol i fi. Ar ôl meddwl tipyn, penderfynais bod comic wê yn gyfrwng da er mwyn rhannu anturiaethau'r cymeriadau gan nad ydw i'n mwynhau ysgrifennu a byddai'n gyfle i ddangos y straeon fel maent yn ymddangos yn fy mhen.

Llun o Sam o 2017

Er oedd y cymeriadau mewn band oedd yn ganolog i'r stori, doedd dim enw iawn ar y band tan 2022. Dau enw rwy'n cofio trio oedd 'Y Shed', ac 'Enw 101'. Bachog, mae'n siwr!

Bywyd Gwyllt heb Ben yn 2017

Ar ôl treulio cwpwl o flynyddoedd yn dod yn fwy gyfarwydd gyda'r cymeriadau, datblygu eu byd, a chyfansoddi straeon, daeth rhifyn cyntaf Bywyd Gwyllt i'r byd yn 2023.

Panel o Bywyd Gwyllt 1

Hafan

©2024 Lucy Jenkins